Croeso i Menstrual Cycle Support
Rydym wedi creu cymuned a chwrs ar-lein rhad ac am ddim sydd wedi'u hadolygu gan gymheiriaid ac sy'n cael eu cefnogi gan glinigwyr, i godi ymwybyddiaeth o'r gylchred fislifol.
Maen nhw ar gael drwy'r feddygfa (trwy bresgripsiwn cymdeithasol), neu gallwch gofrestru i'w defnyddio heddiw.
Cymorth ynghylch y Gylchred Fislifol i bawb
Does dim angen i ni gael ein bwrw i lawr gan donnau o ddioddefaint yn ystod pob cylchred.
Rydym yn credu y gall deall y gylchred fislifol bob dydd helpu i reoli poen yn ystod y mislif a lleddfu dioddefaint oherwydd y mislif a bod o fudd i'r ffordd rydyn ni'n gweithio, yn astudio ac yn byw. Dilynwch y Cwrs Mental Cycle Support a darganfod sut.
Dysgwch sut i ddeall, olrhain a hyd yn oed cofleidio'r gylchred fislifol
Mae'r cwrs yn cymryd 60 munud i'w gwblhau, gyda modiwlau byrion o 10 munud.
Gallwch gael mynediad iddo ar unrhyw declyn a mynd yn ôl ato unrhyw bryd, fel a phryd y mae angen y gefnogaeth arnoch.
Helpu i reoli poen yn ystod y mislif, a gofid emosiynol o gwmpas y gylchred
Gallwch gael cefnogaeth i greu siart tri mis o'ch cylchred, y gellir ei defnyddio yn y feddygfa, yn y gwaith, mewn addysg a gartref
Y sylfaenydd, Kate Shepherd Cohen
Ganwyd a magwyd y sylfaenydd, Kate Shepherd Cohen yn Ne Cymru, ac mae hi wedi ymrwymo i sicrhau bod y cwrs cyfan ar gael yn Gymraeg.